Matthew 27:64 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gorchymyn gan hyny gadw y bedd yn ddilys yd y trydydd dydd, rac dyvot ei ddyscipulon o hyd nos a’ ei ladrata ef ffvvrd, a’ dywedyt wrth y popul, Ef a gyfododd o veirw: ac velly y byð y cyfeilorn dyweddaf yn waeth na’r cyntaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gorchymyn, gan hyny, wneud y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag ysgatfydd, wedi dyfod o’i ddisgyblion, iddynt Ei ladratta Ef, a dywedyd wrth y bobl, Cyfododd o feirw; a bydd y cyfeiliornad diweddaf yn waeth na’r cyntaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly gorchymyn ddiogelu’r bedd hyd y trydydd dydd, rhag ofn i’r disgyblion ddyfod a’i ddwyn ef, a dywedyd wrth y bobl, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw’ a bydd y twyll olaf yn waeth na’r cyntaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gorchymyn gan hynny gadw'r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na'r cyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly wnei di orchymyn i'r bedd gael ei wneud yn ddiogel hyd drennydd. Bydd hynny'n rhwystro'i ddisgyblion rhag dod a dwyn y corff, a mynd o gwmpas wedyn yn dweud wrth bobl ei fod wedi dod yn ôl yn fyw. Byddai'r twyll yna'n waeth na'r twyll cyntaf!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly rho orchymyn i'r bedd gael ei warchod yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag i'w ddisgyblion ddod a'i ladrata a dweud wrth y bobl, 'Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw', ac felly bod y twyll olaf yn waeth na'r cyntaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gorchymyn gan hyny i'r bedd gael ei wneyd yn ddyogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod o'i Ddysgyblion a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ'r cyntaf.