Matthew 27:65 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Pilatus wrthyn, ymae genwch wyliadwriaeth: ewch, a’ diogelwch val y gwyddoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd Pilat wrthynt, Y mae genych wyliadwriaeth: ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medrwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ebe Pilat wrthynt, “Gofelwch fod gennych warchodlu; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cymerwch filwyr,” meddai Peilat, “ac ewch i wneud y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Pilat wrthynt, "Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch warcheidwaid: ewch ymaith; gwnewch mor ddyogel ag y medrwch.