Matthew 27:66 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy aethan, ac a ddiogelesant y bedd y gan y wiliadwriaeth, ac a in selieson y llech.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, wedi myned, a wnaethant y bedd yn ddiogel, gan selio’r maen, ynghyda’r wyliadwriaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aethant hwythau a gwnaethant y bedd yn ddiogel trwy selio’r maen, heblaw gosod y gwarchodlu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda'r wyliadwriaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n mynd a gosod sêl ar y garreg oedd dros geg y bedd, a rhoi milwyr ar ddyletswydd i'w gwarchod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant hwythau a diogelu'r bedd trwy selio'r maen, a gosod y gwarchodlu wrth law.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a aethant ac a wnaethant y bedd yn ddyogel, ac a seliasant y maen, gyda'r gwarcheidwaid.