Matthew 27:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yddynt ymgydgyggori, wy brynesont ac wynt vaes y crochenydd i gladdy pererinion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyngor a gymmerasant, a phrynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa i ddieithriaid;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi ymgynghori prynasant ag ef Faes y Crochenydd yn gladdfa i ddieithriaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio'r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd 'r arian, fel mynwent i ddieithriaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt gyd‐ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt Faes y Crochenydd, er bod yn gladdfa dyeithriaid.