Matthew 27:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(Yno y cwplawyt yr hynn a ddywedpwyt trwy Ieremias y Prophwyt, y ddywait, Ac wynt a gymersont ddec ar ucain ariant, gwerth y gwerthedic, yr hwn a brynesōt gan plāt ’r Israel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Ieremiah y prophwyd, “A chymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, Yr hwn a brisiasant oddi wrth feibion Israel;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna y cyflawnwyd yr hyn a lefarwyd trwy Ieremïas y proffwyd, A chymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y prisiedig, yr hwn a brisiodd rhai o feibion Israel,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna sut daeth geiriau'r proffwyd Jeremeia yn wir: “Dyma nhw'n cymryd y tri deg darn arian (dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel),
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: "Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremiah y Proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg‐ar‐hugain arian, pris y prisiedig, Yr hwn a brisiasai rhai o feibion Israel: