Matthew 28:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a ddaethant, ac a ymavlesont yn ei draet, ac ei addolesont. Yno y dyvot yr Iesu wrthwynt, Nac ofnwch. Ewch, a’ dywedwch im broder yn yd elont i Galilaea, yno y gwelant vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch; ewch, mynegwch i Fy mrodyr i fyned ymaith i Galilea; ac yno y’m gwelant I.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna medd yr Iesu wrthynt, “Peidiwch ag ofni; ewch, mynegwch i’m brodyr am iddynt fyned ymaith i Galilea, ac yno y’m gwelant.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y'm gwelant i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Peidiwch bod ag ofn,” meddai Iesu wrthyn nhw, “Ewch i ddweud wrth fy mrodyr i am fynd i Galilea; byddan nhw'n cael fy ngweld i yno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai Iesu wrthynt, "Peidiwch ag ofni; ewch a dywedwch wrth fy mrodyr am fynd i Galilea, ac yno fe'm gwelant i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch; ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr ymadawont i Galilea, ac yno y'm gwelant I.