Matthew 28:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Dywedwch, E ddaeth ei ddlscipulon o hyd nos, ac y lladratesont ef a ni yn cyscu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion Ef, wedi dyfod liw nos, a’i lladrattasant Ef, a nyni yn cysgu:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Dywedwch, ‘Ei ddisgyblion a ddaeth yn y nos, a’i ddwyn ef, pan oeddem ni’n cysgu.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
i ddweud celwydd. “Dyma beth dych chi i'w ddweud: medden nhw, ‘Daeth ei ddisgyblion yn ystod y nos a dwyn y corff tra oedden ni'n cysgu.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud wrthynt, "Dywedwch fod ei ddisgyblion ef wedi dod yn y nos, a'i ladrata tra oeddech chwi'n cysgu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Dywedwch, Ei Ddysgyblion Ef a ddaethant o hyd nos ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.