Matthew 28:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a gymeresont yr arian tae, ac a wnaethant val yr addyscwyt wy: ac y gyhoeddwyt y gair hwn ym‐plith yr Inðaeon yd y dydd heddy vv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, wedi cymmeryd yr arian, a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt; a thanwyd y gair hwn ymhlith yr Iuddewon hyd heddyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cymerasant hwythau’r arian, a gwnaethant fel y cyfarwyddwyd hwynt. A thaenwyd yr hanes hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r milwyr yn cymryd yr arian ac yn gwneud beth ddwedwyd wrthyn nhw. Dyma'r stori mae'r Iddewon i gyd yn dal i'w defnyddio heddiw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd y milwyr yr arian a gwneud fel y cawsant eu cyfarwyddo. Taenwyd y stori hon ar led ymysg Iddewon hyd y dydd heddiw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan gymmeryd yr arian, hwy a wnaethant fel y dysgwyd hwynt. A thaenwyd y gair hwn yn mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw.