Matthew 28:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, y bu dayar‐gryn mawr: can ys descen dodd Angel yr Aaglwydd o’r nef, a’ dyvot a’ threiglo y llech y wrth y drws, ac eistedd arnei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac, wele, daear-gryn mawr a fu; canys angel yr Arglwydd, wedi dyfod i lawr o’r nef, a ddaeth ac a dreiglodd ymaith y maen, ac a eisteddodd arno;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele, bu daeargryn mawr; canys disgynasai angel yr Arglwydd o’r nef, a dyfod a threiglo’r maen ymaith, ac yr oedd yn eistedd arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o'r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn sydyn roedd daeargryn mawr. Dyma angel yr Arglwydd yn dod i lawr o'r nefoedd a rholio'r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o'r nef, ac aeth at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, bu daeargryn mawr, canys Angel yr Arglwydd a ddisgynodd o'r Nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd ymaith y maen, ac a eisteddodd arno.