Matthew 28:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Angel y atepawdd ac a ddyvot wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys gwn mai caisio ydd ych yr Iesu yr hwn a grogwyt:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrth y gwragedd, nac ofnwch chwi, canys gwn mai yr Iesu, yr Hwn a groes-hoeliwyd, yr ydych yn Ei geisio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llefarodd yr angel a dywedodd wrth y gwragedd, “Peidiwch chwi ag ofni; canys gwn mai’r Iesu croeshoeliedig a geisiwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r angel yn dweud wrth y gwragedd, “Peidiwch bod ag ofn. Dw i'n gwybod eich bod chi'n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: "Peidiwch chwi ag ofni," meddai. "Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch chwi, canys mi a wn mai yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd, yr ydych chwi yn ei geisio.