Matthew 28:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ewch a’r ffrwst, a’ dywedwch y’w ddiscipulon gyfody o hanaw o veirw: a’ nycha ef yn ych racvlaeny i Galilea: yno y gwelwch ef: nycha ys dywedais y’wch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned ar ffrwst, dywedwch wrth Ei ddisgyblion, Cyfododd o feirw; ac wele, myned o’ch blaen y mae i Galilea: yno y gwelwch Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ewch ar frys a dywedwch wrth ei ddisgyblion, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw, ac wele, y mae’n mynd o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Wele, dywedais wrthych.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i'w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna ewch ar frys a dweud hyn wrth ei ddisgyblion: ‘Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac mae'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno.’ Edrychwch, fi sydd wedi dweud wrthoch chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yna ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion, 'Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.' Dyna fy neges i chwi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ewch ar frys, a dywedwch i'w Ddysgyblion, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; ac wele, y mae Efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch Ef; wele dywedais i chwi.