Matthew 28:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yð aethant yn ebrwyð o’r vonwent gan ofn a’ llawenydd mawr, ac a redasan i venegy y’w ðiscipulon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, dywedais wrthych. Ac wedi myned ar ffrwst oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i'w ddisgyblion ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r gwragedd yn rhedeg ar frys o'r bedd i ddweud wrth y disgyblion. Roedden nhw wedi dychryn, ac eto roedden nhw'n teimlo rhyw wefr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd, mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedeg i ddweud wrth ei ddisgyblion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ymadawsant ar frys oddiwrth y bedd gydag ofn a llawenydd mawr, ac a redasant i fynegu i'w Ddysgyblion.