Matthew 28:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ’n hwy yn myned y venegy y’w ðiscipulon ef, a’ nycha ’r Iesu yn cyhwrdd ac wynt, gan ddywedyt, Dyw ich cadw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy, wedi dyfod Atto, a ymafaelasant yn Ei draed Ef, ac ymochreiniasant Iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele Iesu yn eu cyfarfod a dywedyd, “Henffych well.” Daethant hwythau ato, ac ymafael yn ei draed, ac ymgrymu iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i'w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'n sydyn dyma Iesu'n eu cyfarfod nhw. “Helo,” meddai. Dyma nhw'n rhedeg ato ac yn gafael yn ei draed a'i addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma Iesu'n cyfarfod hwy a dweud, "Henffych well!" Aethant ato a gafael yn ei draed a'i addoli.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Henffych well. A hwy a ddaethant ato, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.