Matthew 3:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Myvi yn ddiau ach betyddiaf a dwfyr er edifeirwch, eithyr hwn a ddaw ar v’ol i, ys y gadarnach na myvi, a’ei escidiae nid wyf deilwng y’w dwyn: efe ach betyddia a’r Yspryt glan, ac a than.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi, yn wir, wyf yn eich bedyddio â dwfr, i edifeirwch; ond yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol i, cryfach yw na myfi, yr Hwn nid wyf deilwng i ddwyn Ei esgidiau: Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: yr Hwn y mae Ei wyntyll yn Ei law;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch; ond yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl, cryfach yw na mi, ac nid wyf deilwng i dynnu ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân, ac â thân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi, fel arwydd eich bod chi'n troi at Dduw. Ond ar fy ôl i mae un llawer mwy grymus na fi yn dod — fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas iddo hyd yn oed, i gario ei sandalau. Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi yn eich bedyddio du373?r i edifeirwch; ond y mae'r hwn sydd yn dod ar f'l i yn gryfach na mi, un nad wyf fi'n deilwng i gario'i sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio 'r Ysbryd Gln ac thn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Myfi yn ddiau wyf yn eich bedyddio chwi mewn dwfr i edifeirwch; eithr yr Hwn sydd yn dyfod ar fy ol I sydd gryfach nâ myfi, esgidiau yr hwn nid wyf deilwng i'w dwyn, efe a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glan ac yn tân.