Matthew 3:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr Ioan y gwrthladdawdd ef, can dywedyt. Mae arnaf eisiae vy‐betyddiaw y genyti, a’ thi a ddeuy atafi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond Ioan a warafunodd Iddo, gan ddywedyd, Arnaf fi y mae eisiau fy medyddio gennyt Ti, ac a wyt Ti yn dyfod attaf fi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwrthodai yntau, gan ddywedyd, “Arnaf i y mae eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti’n dyfod ataf i?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di ataf fi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond ceisiodd Ioan ei rwystro. Meddai wrtho, “Fi ddylai gael fy medyddio gen ti! Pam wyt ti'n dod ata i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ceisiodd Ioan ei rwystro, gan ddweud, "Myfi sydd ag angen fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti yn dod ataf fi?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr efe a fynai ei lwyr rwystro, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio genyt ti, ac a ddeui di ataf fi?