Matthew 3:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r Iesu gan atep, a ddyvot wrthaw, Gad yr awrhon: can val hyn y gwedda y ni gyflawni pop cyfiawnder. Yno y gadawodd yddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Gâd yn awr; canys fel hyn y mae’n weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna y gadawodd efe Iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd yr Iesu iddo, “Caniatâ yn awr; canys felly y mae’n weddus inni gyflawni pob peth iawn.” Yna fe ad iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gad yr awr hon; canys fel hyn y mae'n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Gwna beth dw i'n ei ofyn; dyma sy'n iawn i'w wneud.” Felly cytunodd Ioan i'w fedyddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrtho, "Gad i hyn fod yn awr, oherwydd fel hyn y mae'n weddus i ni gyflawni popeth y mae cyfiawnder yn ei ofyn." Yna gadodd Ioan iddo ddod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Caniata yn awr, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawnu pob cyfiawnder. Yna y mae efe yn caniatau iddo.