Matthew 3:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu wedi ei vetyddio, a ddaeth yn y van i vyny dd o’r dwfr. Ac wely, y nefoedd a agorwyt iddaw, ac Ioan a welawdd Yspryt Duw yn descen val colom b en, ac yn dewot arnaw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi Ei fedyddio, yr Iesu a aeth i fynu yn uniawn o’r dwfr, ac wele, agorwyd y nefoedd Iddo, a gwelodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno Ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bedyddiwyd yr Iesu, ac yn ebrwydd esgynnodd o’r dwfr; a dyna’r nefoedd yn ymagor, a gwelodd Ysbryd Duw’n disgyn megis colomen ac yn dyfod arno;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o'r dŵr, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r du373?r, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fyny oddiwrth y dwfr; ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef;