Matthew 3:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth allan atto Gaerusalem ac oll Iudaea, a’r oll wlat o ddi amgylch Iorddanen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna yr aeth allan atto ef Ierwshalem, a holl Iwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna’r âi allan ato Gaersalem a holl Iwdea a holl gymdogaeth yr Iorddonen;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem, a holl Jwdea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl o Jerwsalem a phob man arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd trigolion Jerwsalem a Jwdea i gyd, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr aeth allan ato ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen,