Matthew 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’phan welawdd ef lawer o’r Pharisaiait ac or Sadduceit yn dywot y’w vetydd ef, y dyvot wrthynt, A genedleth gwiperoedd, pwy ach rac rybyddiawdd i giliaw rac y digofeint a ddelai?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled llawer o’r Pharisheaid a’r Tsadwceaid yn dyfod i’w fedydd, dywedodd wrthynt, O eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth weled llawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dyfod i’r bedydd fe ddywedodd wrthynt, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd efe lawer o'r Phariseaid ac o'r Sadwceaid yn dyfod i'w fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rai o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio ganddo. Pan welodd Ioan nhw, dwedodd yn blaen wrthyn nhw: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd Ioan lawer o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i'w bedyddio ganddo, dywedodd wrthynt: "Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd efe lawer o'r Pharisëaid ac o'r Saducëaid yn dyfod i'w fedydd, efe a ddywedodd wrthynt, O epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid sydd ar ddyfod?