Matthew 3:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac na veddyliwch ddywedyt ynoch eich unain, Y mae genym ni Abraham yn dat i ni: can ys dyweddaf ychwi, y dychon Duw o’r main hyn gyfodi i vyny blant i Abraham.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunan, Yn dad i ni y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r meini hyn i gyfodi plant i Abraham.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac na feddyliwch am ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad,’ canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o'r meini hyn, gyfodi plant i Abraham.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A pheidiwch meddwl dweud wrthych eich hunain, 'Y mae gennym Abraham yn dad', oherwydd 'rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn dad, canys yr wyf yn dywedyd i chwi y dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.