Matthew 4:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Tynn ymaith Satan: can ys scrivenedic yw, Yr Arglwydd dy Dduw a addoly, ac efe yn vnic a wasanaethy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dos ymaith, Satan; canys ysgrifenwyd, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac Ef yn unig a wasanaethi.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna dywed yr Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, I’r Arglwydd dy Dduw yr ymgrymi, ac ef yn unig a wasanaethi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’ ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Iesu wrtho, "Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywed yr Iesu wrtho, Ymaith, Satan, canys y mae yn ysgrifenedig, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, Ac efe yn unig a wasanaethi.”