Matthew 4:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glybu ’r Iesu ry roddi Ioan, ef a ymchoelawdd i Galilaea,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed o Hono fod Ioan wedi ei draddodi, ciliodd i Galilea;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd fod Ioan wedi ei draddodi, fe giliodd i Galilea.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu efe draddodi Ioan, efe a giliodd i Galilea;