Matthew 4:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y popul a oedd yn eistedd yn‐tywyllwch, a welawdd oleuni mawr: ac ir ei a eisteddent ym‐bro a’ gwascot angae, y cyfododd goleuni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y bobl a eisteddai mewn tywyllwch A welsant oleuni mawr; Ac i’r rhai yn eistedd ym mro a chysgod angau, Goleuni a gododd iddynt.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y bobl a oedd yn eistedd mewn tywyllwch, goleuni mawr a welsant; ie’r rhai’n eistedd ym mro a chysgod angau, goleuni a wawriodd arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac ar drigolion tir cysgod angau y gwawriodd goleuni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr, Ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu, goleuni a gyfododd iddynt.”