Matthew 4:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal ydd oedd yr Iesu yn rhodiaw wrth vor Galilea, e ganvu ddau vroder, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei vrawt, yn bwrw rhwyt i’r mor (can ys pyscotwyr oeddent)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth rodio wrth fôr Galilea gwelodd ddau frawd, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr, canys yr oeddynt bysgodwŷr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth rodio ger môr Galilea fe welodd ddau frawd, Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd ef, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd — Simon, roedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth gerdded ar lan Mr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r mr; pysgotwyr oeddent.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn rhodio wrth For Galilea, efe a welodd ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw taflrwyd i'r mor; canys pysgodwyr oeddynt.