Matthew 4:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A gwedy iddaw vmprytiaw dd’augain diernot a dau’gain nos, yn ol hynny y newynawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hyny y newynodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, wedi hynny daeth arno newyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl bwyta dim byd am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, o'r diwedd efe a newynodd.