Matthew 4:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy yn y van gan ady y rhwytae, y dilynesont ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy yn uniawn, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn y fan, gadawsant hwythau eu rhwydau a’i ddilyn ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a'i canlynasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Heb oedi, dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy yn ebrwydd a adawsant y rhwydau, ac a'i canlynasant ef.