Matthew 4:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A gwedy y vynet ef o ddynaw, ef a welawdd ddau vroder ereill, Iaco vap Zebedeus, ac Ioan ei vrawt mewn llong gyd a Zebedeus ei tat, yn cyweiriaw ei rhwytae, ac ei galwodd wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned rhagddo oddiyno, gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch ynghyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi mynd rhagddo oddi yno fe welodd ddau frawd eraill, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd ef, yn y llong gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio’u rhwydau; a galwodd hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a'u galwodd hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall, Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddo fynd ymlaen oddi yno gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio eu rhwydau. Galwodd hwythau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wrth fyned rhagddo oddiyno, efe a welodd ddau frodyr ereill, Iago, mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac efe a'u galwodd hwynt.