Matthew 4:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno ydd aeth yr Iesu o amgylch oll Galilaea, gan ei dyscy yn ei Synagogae, a’ phregethy Euangel y deyrnas, ac iachay pop haint, a’ phob nychtot, ymplith y popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth yr Iesu o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, a chan iachau pob clefyd a phob afiechyd ym mhlith y bobl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac âi o amgylch trwy Galilea oll, dan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chyhoeddi efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob llesgedd ymhlith y bobl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn mynd o amgylch Galilea gyfan, dan ddysgu yn eu synagogau hwy a phregethu efengyl y deyrnas, ac iachu pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a aeth o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobl.