Matthew 4:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac aeth son am danaw trwy oll wlad Syria: ac a ddugesont ataw yr oll gleifion, ar oedd yn adwythus o amryw heintiae a chnofeydd, a’r ei cythraulic, ar ei lloeric ar sawl oedð ar parlys arnyn, ac ef ai iachaodd wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth allan y sôn am dano Ef i’r holl Suria; a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl, gydag amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, rhai cythreulig, a rhai lloerig, a rhai â’r parlys arnynt, ac iachaodd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth y sôn amdano drwy holl Syria; a dygasant ato’r holl gleifion a oedd yng ngafael amrywiol glefydau ac arteithiau, cythreuligion a lloerigion a pharlysedigion; ac iachaodd hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd â'r parlys arnynt; ac efe a'u hiachaodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato — pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi eu parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y sn amdano trwy Syria gyfan; dygasant ato yr holl gleifion oedd yn dioddef dan amrywiol afiechydon, y rhai oedd yn cael eu llethu gan boenau, y rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, y rhai'n dioddef o ffitiau, a'r rhai oedd wedi eu parlysu; ac fe iachaodd ef hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r son am dano a aeth allan trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, y rhai a ddelid gan amrywiol glefydau a doluriau, y rhai a feddiannid gan gythreuliaid, y rhai lloerig, a'r rhai parlysig; ac efe a'u hiachaodd hwynt.