Matthew 4:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth y temptiwr atto, ac a ddyvot, A’s ti yw Map Duw, arch ir ceric hynn vod, yn vara.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod Atto, y temtiwr a ddywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, arch y bo i’r cerrig hyn fyned yn dorthau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth y temtiwr ato, a dywedodd wrtho, “Os Mab Duw wyt, dywed am i’r cerrig hyn droi’n fara.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fod yn fara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pryd y daeth y diafol i'w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r cerrig yma droi'n fara,” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth y temtiwr a dweud wrtho, "Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi'n fara."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Temtiwr a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, llefara fel y byddo i'r cerryg hyn ddyfod yn dorthau.