Matthew 4:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac addyvot wrthaw, A’s Map Duw wyt, bwrw dy hun i lawr: can ys yscrivenedic yw, Y rhydd ef orchymyn yw Angelion am danat, ac wy ath dducant yn ei dwylaw, rhac taro o hanot dy droet wrth garec.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun i lawr, canys ysgrifenwyd, “I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat, Ac ar eu dwylaw y’th ddygant, Rhag un amser darawo o Honot Dy droed wrth garreg.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac medd wrtho, “Os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, I’w angylion y gorchymyn ef amdanat, ac ar eu dwylo y’th ddaliant, rhag taro ohonot byth dy droed wrth garreg.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, Y rhydd efe orchymyn i'w angylion amdanat; a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud wrtho, "Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat; byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ddywed wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr, canys y mae yn ysgrifenedig, “I'w angylion y rhydd efe orchymyn am danat; Ac ar eu dwylaw y'th ddygant, Rhag taro o honot un amser dy droed wrth garreg.”