Matthew 5:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Phan welawdd ef y dyrva, ef a escenawdd i’r monyth: a’ gwedy iddaw eistedd, y deuth eu ddiscipulon attaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled y torfeydd esgynodd i’r mynydd; ac wedi eistedd o Hono, daeth Ei ddisgyblion Atto;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth weled y tyrfaoedd fe esgynnodd i’r mynydd; ac eisteddodd, a daeth ei ddisgyblion ato.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wrth weled y tyrfaoedd, efe a esgynodd i'r mynydd; ac wedi iddo eistedd, ei Ddysgyblion a ddaethant ato.