Matthew 5:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyn ei byt yr ei a erlidir er mwyn cyfiawnder, can ys eiddwynt teyrnas nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyn eu byd y rhai a erlidwyd o achos cyfiawnder; canys eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn eu byd yr erlidiedig o achos cyfiawnder, canys hwynthwy biau deyrnas nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw'n gyfiawn wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu herlid o achos cyfiawnder, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd.