Matthew 5:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyn eich byt pan ich an-vria dynion, a’ch erlit, a doedit pop ryw ddrwc am danoch er vy mwyn i, ac vvy yn gelwyddawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyn eich byd, pan y’ch gwaradwyddant ac eich erlid, ac y dywedant bob drwg yn eich erbyn, gan gelwyddu, o’m hachos I:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn eich byd pan waradwyddant chwi, a’ch erlid, a dywedyd ar gelwydd bob drwg yn eich erbyn o’m hachos i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a'ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi'ch bendithio'n fawr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drwg yn eich herbyn (a hwy yn gelwyddog), o achos fy enw I.