Matthew 5:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Byddwch lawen a’ hyfryd, can ys mawr yw eich cyfloc yn y nevoedd: erwydd velly yr erlidiesont wy ’r Prophwyti yr ei vu o’ch blaen chvvi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
llawenychwch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y nefoedd; canys felly yr erlidiasant y prophwydi a fuant o’ch blaen chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Llawenychwch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sy fawr yn y nefoedd; oblegid felly’r erlidiasant y proffwydi a fu o’ch blaen chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy'r proffwydi a fu o'ch blaen chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha'r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Llawenhewch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y Nefoedd, canys felly yr erlidiasant y Proffwydi, y rhai fuont o'ch blaen chwi.