Matthew 5:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwychwi yw halen y ddayar: eithyr a chollawdd yr halen ei vlas, a pha peth yr helltire? Ny thal e mwy i ddim, anid y’w vwrw allan, a’i sathry gan bawp.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwychwi yw halen y ddaear; ond os yr halen a ddi-flasodd, â pha beth yr helltir ef? ni thâl mwy i ddim ond, wedi ei fwrw allan, i’w sathru gan ddynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei rin, â pha beth yr helltir ef? Nid yw dda i ddim mwyach ond i’w daflu allan a’i sathru gan ddynion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae'r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Dydy e'n dda i ddim ond i'w daflu i ffwrdd a'i sathru dan draed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed pobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? Nid yw mwyach o unrhyw werth, ond i'w fwrw allan a'i sathru gan ddynion.