Matthew 5:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny ’oleuant ganwyll, aei dodi hi dan lestr, anid mewn cannwyllbren, a’ goleuo awna hi i bawp ar ys ydd yn tuy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ni oleuent lusern a’i dodi tan y llestr, ond ar safle’r llusern, a llewyrcha i bawb sydd yn y tŷ:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ni oleuant gannwyll chwaith, a’i dodi dan y celwrn, eithr ar y canhwyllbren, a hi lewyrcha i bawb sydd yn y tŷ.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni oleuant gannwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A does neb yn goleuo lamp i'w gosod o dan fowlen! Na, dych chi'n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll a'i rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tu375?.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni oleuant lamp ac a'i gosodant dan y mesur‐lestr, ond ar y safbren, a hi a ddysgleiria ar bawb sydd yn y tŷ.