Matthew 5:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Llewyrchet velly eich goleuni garbron dynion, yn y welont eich gweithredoedd da chvvi, a’ gogoneðy eich Tad yr hwn ys ydd yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
felly, llewyrched eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly llewyrched eich goleuni gerbron dynion fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad sydd yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly, dysgleiried eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da, ac y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.