Matthew 5:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Canys yn wir y dywedaf y chwi, Yn y ddarvo nef a’ dayar, ny phalla vn iod, na thitul or Ddeddyf, yn y gwplaer oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yn wir meddaf i chwi, nes myned heibio o’r nef a’r ddaear, nac un iot nac un pyncyn o’r Gyfraith a aiff heibio, nes i’r cwbl gael ei wneud.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yn wir meddaf i chwi, hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, un iod nac un fachell nid â heibio byth o’r gyfraith nes darfod y cwbl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o'r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu. Rhaid i'r cwbl ddigwydd gyntaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, un iod neu un tipyn nid ä heibio o'r Gyfraith ddim, hyd oni chwblhaer oll.