Matthew 5:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy pynac can hynny a doro ’r vn o’r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysc ddynion velly, lleiaf y gelwir ef yn teyrnas nef: An’d pwy pynac a ei catwo ac ei dysco i ereill, hwnaw a elwir yn vawr yn‐teyrnas nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy bynnag, gan hyny, a ddattodo un o’r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo felly i ddynion, lleiaf a elwir ef yn nheyrnas nefoedd; ond pwy bynnag a’ u gwnelo ac a’ u dysgo i ddynion, efe, mawr y’i gelwir yn nheyrnas nefoedd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pwy bynnag, ynteu, a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo felly i ddynion, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a’i gwnêl ac a’i dysgo, mawr y gelwir hwnnw yn nheyrnas nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy bynnag gan hynny a dorro un o'r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a'u gwnelo, ac a'u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pwy bynnag sy'n torri'r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy'n byw yn ufudd i'r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny pwy bynnag fydd yn dirymu un o'r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i eraill wneud felly, gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a'i ceidw ac a'i dysg i eraill, gelwir hwnnw'n fawr yn nheyrnas nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy bynag, gan hyny, a doro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn Nheyrnas Nefoedd; ond pwy bynag a'u gwnelo ac a'u dysgo, hwn a elwir yn fawr yn Nheyrnas Nefoedd.