Matthew 5:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐dywedaf ychwi, any bydd eich cyfiawnder yn ehelaethach na chyfiavvnder y Gwyr‐llen a’r Pharisaiait, nid ewch i deyrnas nefoedd. Yr Euangel y vi. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys meddaf i chwi, Os nad helaethach fydd eich cyfiawnder rhagor yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid, nid ewch i mewn, er dim, i deyrnas nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder chwi yn helaethach nag eiddo’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud hyn — os fyddwch chi ddim yn byw'n fwy cyfiawn na'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Rwy'n dweud wrthych, oni fydd eich cyfiawnder chwi yn rhagori llawer ar eiddo'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys meddaf i chwi, Oni fydd eich cyfiawnder yn helaethach nag eiddo yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i fewn i Deyrnas Nefoedd.