Matthew 5:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr mi a ddywedaf wrthych, mae pwy pynac a ddigia wrth ei vrawt eb ystyr, a vydd ’auoc o varn. A’ phwy pynac a ddywet wrth ei vrawt, Raka, a vydd ’euoc o Gyngor. A’ phwy pynac a ddyweit, Ha ynvyt, a vydd ’euoc o dan yffern.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phwy bynnag a laddo, dyledus fydd i’r farn;” ond Myfi wyf yn dywedyd wrthych, Pob un a ddigio wrth ei frawd, dyledwr fydd i’r farn; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, “Raca,” dyledwr fydd i’r Cynghor; a phwy bynnag a ddywedo, “More,” dyledwr fydd i’r Gehenna tanllyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a lidio wrth ei frawd, agored fydd i gosb; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd ‘Rhaca!’ bydd yng ngafael y Sanhedrin; a phwy bynnag a ddywedo ‘Ffŵl!’ agored fydd i’w fwrw i Gehenna’r tân.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod y sawl sy'n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw'n idiot, mae'n atebol i'r Sanhedrin. Ond os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, 'Y ffu373?l', bydd yn ateb am hynny yn nhn uffern.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond meddaf i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd a fydd yn agored i'r farn: a phwy bynag a ddywedo wrth ei frawd, Y Dyhiryn! a fydd agored i'r Cynghor; a phwy bynag a ddywedo, O Ynfyd, a fydd agored i Gehenna o dân.