Matthew 5:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cytuna ath wrthnepwr yn gyflym, tra vych ar y ffordd gyd ac ef, rac ith wrthnepwr dy roi yn llaw’r ynat, ac ir ynat dy roddy at y rhingill, a’th tavly yn‐carchar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cyttuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech gydag ef ar y ffordd, rhag ysgatfydd i’r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, ac i’r barnwr dy draddodi at y gweinidog, a’th daflu yngharchar:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bydd esgud i gymodi â’th wrthwynebwr tra fyddych gydag ef ar y ffordd, rhag ofn i’th wrthwynebwr dy draddodi i’r barnwr, a’r barnwr i’r swyddog, a’th fwrw yng ngharchar;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cytuna â'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw'r barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yng ngharchar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i'r llys, setla'r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy'n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i'r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cytuna â'th wrthwynebwr ar frys tra fyddech gydag ef ar y ffordd; rhag un amser i'r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, a'r barnwr at yr is‐swyddog, a'th daflu i garchar.