Matthew 5:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hynny a’s dy lygat deheu ath rwystra, tyn ef allan, a’ thavl ywrthyt: can ys gwell yty, golli vn oth aylodae, na thavly dy oll corph i yffern.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os dy lygad dehau a bair dramgwydd i ti, tyn ef allan a thafl oddiwrthyt, canys da yw i ti ddarfod am un o’th aelodau, ac na fo i’th holl gorph ei daflu i Gehenna.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os yw dy lygad dehau yn dy rwystro, tyn ef allan, a bwrw oddi wrthyt; canys fe dâl iti golli un o’th aelodau, ac na fwrier dy holl gorff i Gehenna.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os dy lygad deau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dy lygad deheu a bair i ti dramgwyddo, tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i Gehenna.