Matthew 5:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefeit a’s dy law ddeheu ath rwystra, tor hi y maith, a’ bwrw ywrthyt: can ys gwell i ti, golli vn oth aelodae: na bod thavly dy oll gorph i yffern.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os dy ddeheulaw a bair dramgwydd i ti, tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt, canys da yw i ti ddarfod am un o’th aelodau, ac na fo i’th holl gorph fyned ymaith i Gehenna.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os yw dy law ddehau yn dy rwystro, tor hi ymaith a bwrw oddi wrthyt; canys fe dâl iti golli un o’th aelodau, ac nad êl dy holl gorff i Gehenna.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os dy law ddeau a'th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dy law ddeheu a bair i ti dramgwyddo, tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac nac eled dy holl gorff i Gehenna.