Matthew 5:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d myvi a ddywedaf ychwi, may pwy pynac a vaddeuo ei wraic (o ddyethr o ran godinep) a wna yddi-vot yn gwneuthur godineb: a’ phwy bynac a briota hon a yscarwyt, y mae yn gwneithur godinep.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych, Pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, gwneuthur iddi odineba y mae; a phwy bynnag a briodo wraig a ysgarwyd, godinebu y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a ysgaro â’i wraig oddieithr o achos anniweirdeb, fe bair iddi wneuthur godineb; a phwy bynnag a briodo wraig a ysgarwyd, y mae’n godinebu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo'r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod dyn sy'n ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn sy'n priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wahn i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos puteindra, yn peru iddi gael ei chyfrif yn odinebwraig; a phwy bynag a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith a odineba