Matthew 5:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d mi a dywedaf y chwi, Na thwng yn ollawl, nag ir nef, can ys eisteddva Duw ytyw:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych beidio a thyngu o gwbl; na myn y nef, canys gorseddfaingc Duw yw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Na thyngwch o gwbl; nac i’r nef, canys gorsedd Duw ydyw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i'r nef; canys gorseddfa Duw ydyw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i'r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch thyngu llw o gwbl; nac i'r nef, gan mai gorsedd Duw ydyw;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Na thwng o gwbl; nac i'r Nef, canys gorseddfa Duw ydyw;