Matthew 5:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr bid eich ymadroð chvvi, Ie, ie: nag ef, nag ef. O bleit peth pynac ys y dros ben hyn, a ðaw o’r drwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond bydded eich ymadrodd, Ië, Ië; Nag ê, nag ê; a’r hyn sydd dros ben y rhai hyn o’r drwg y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond boed eich gair ie yn ie, a’ch nage yn nage; rhagor na’r rhain, o’r drwg y mae.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser — dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy'n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond boed eich 'ie' yn 'ie', a'ch 'nage' yn 'nage'; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ïe; Nag ê, nag ê; a pha beth bynag sydd dros ben y rhai hyn, o'r drwg y mae.