Matthew 5:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr mi‐a ddywedaf ychwi, Na wrthleddwch ] ddrwc: anid pwy pynac ath trawo ar dy rudd ] deheu, tro ’r llall ataw hefyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych beidio â gwrthsefyll y dyn drwg; ond y neb a’th darawo di ar dy rudd ddehau, tro iddo y llall hefyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Na wrthsefwch y drwg; eithr pwy bynnag a’th gernodio ar dy rudd ddehau, tro’r llall iddo hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a'th drawo ar dy rudd ddeau, tro'r llall iddo hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu'n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch yr hyn sydd ddrwg, ond pwy bynag a'th darawo ar dy rudd ddeheu, tro y llall iddo hefyd.