Matthew 5:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dyro i hwn a arch genyt, ac ywrth yr hwn a ewyllysei echwyno genyt, nag ymchwel y maith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I’r hwn a ofyno genyt, dyro; a’r hwn sy’n ewyllysio echwyna genyt ti, na thro oddi wrtho.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y neb a geisio gennyt, dyro iddo; a’r neb a ddymuno fenthyca gennyt, na thro oddi wrtho.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyro i'r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rho i bwy bynnag sy'n gofyn i ti am rywbeth, a paid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dyro i'r hwn a ofyno genyt; ac oddiwrth yr hwn a fenthycia genyt, na thro i ffwrdd.